Parc Cenedlaethol Eryri

Dynodwyd Eryri, y mwyaf o’r tri pharc cenedlaethol, yn ffurfiol fel parc cenedlaethol ym 1951. O fewn ei derfynau mae 823 milltir sgwâr o rai o dirluniau harddaf Prydain, ac mae canran uchel ohono wedi ei ddynodi ar gyfer gwarchod bywyd gwyllt. Mae’n gartref i 25,000 o bobl yn unig, ond mae miliynau yn ymweld bob blwyddyn i fwynhau nodweddion arbennig ei fynyddoedd, ei rostiroedd, ei afonydd a’i arfordir, ac i werthfawrogi’r harddwch naturiol, yr awyr iach a’r synnwyr o le gwag nad yw’n bodoli mewn dinasoedd.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd â'r cyfrifoldeb am benderfyniadau cynllunio ar draws y Parc Cenedlaethol.

O gopa’r Wyddfa sy’n 1085 metr (3560 troedfedd) i lawr i’r traethau, mae Eryri’n llawn o fywyd gwyllt ac mae ganddi hunaniaeth ddiwylliannol gref sy’n gysylltiedig â’r iaith Gymraeg sy’n ffynnu yma. Yn ddiweddar, cafodd y cyhoedd ‘hawl i grwydro’ ar fynyddoedd a rhostir. Fodd bynnag, mae hi’n bwysig cofio bod y rhan fwyaf o dir mewn perchnogaeth breifat a dim ond ar hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau caniataol y gellir cael mynediad drwy dir amaethyddol sy’n cael ei drin. Mae angen i ni gofio hefyd bod y mynyddoedd yn gallu bod yn amgylchedd garw i bobl ddibrofiad, a bod y tywydd ar y copaon bob amser yn oerach, yn wlypach ac yn fwy gwyntog nag yn y dyffrynnoedd. O’u trin gyda pharch, fodd bynnag, mae’r mynyddoedd hyn yn drysor gwerthfawr i'r ymwelwr ei ddarganfod.

Cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad lle bynnag yr ewch.