Tramwyo'r 14 Copa

Gallwch ymweld â chopaon mynyddoedd dros tair mil troedfedd Cymru mewn un taith odidog, os ydych yn ddigon ffit ac hefo dipyn o brofiad cerdded yn y mynyddoedd.  Peidiwch a thanamcangyfrif y daith dros y mynyddoedd!

Gallwch ychwanegu manylion cwblhau tramwyaeth at gronfa gwybodaeth y Gymdeithas. Yn unol a moeseg mynydda, ni fyddwn yn gofyn am gadarnhad o'r hawliad. Mae'r system yn dibynnu ar anrhydedd y person sy'n hawlio'r tramwyad llwyddiannus.

Bydd rhai'n penderfynu cymeryd ychydig ddyddiau, efallai defnyddio hostel ieuenctid Ogwen Cottage. Mae campio gwyllt hefo dim o effaith yn bosibl, ond cofiwch gael caniatad gan berchen y tir. O gofio'r golygfeydd godidig mae yna reswm da dros drefnu taith 2 neu 3 diwrnod uwchben Cymru.

Gall cerddwyr mynydd ffit a phrofiadol gyflawni'r tramwyo mewn un diwrnod caled ond bythgofiadwy. Y ffordd orau yw treulio'r diwrnod gyda chyfaill neu grwp bach, efallai. Er y gellid awgrymu tramwyo'n unigol, byddai angen cryn dipyn o brofiad mynydd. Mae natur y tramwyad a'r tir yn golygu nad yw'n addas i nifer fawr dramwyo ar yr un pryd nag i sialens codi arian gan gerddwyr mynydd di-brofiad. Daeth aelodau Cymdeithas Eryri, a oedd yn cymeryd rhan yn nhaith gerdded Heuldro Haf 2009 y Gymdeithas, ar draws tri gwr ifanc ar Foel Grach a oedd yn cael trafferth ffeindio'u ffordd a phroblemau ffitrwydd. Fe wnaeth droi allan yn y diwedd eu bod yn rhan o ymdrech codi arian a aeth ar chwal a roeddynt angen cymorth gan dîm achub Ogwen.

Gwneir y rhan fwyaf o'r tramwyadau i'r gogledd o'r Wyddfa i Foel Fras. Bydd llawer yn dewis cychwyn yn gynnar o Pen Y Pass ac esgyn o lwybrau'r Mwynwyr (llun) neu PYG. Ychydig o reolau syml! I nodi'ch ymdrech yn y gronfa gwybodaeth, y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw'ch bod yn ymweld â'r 14 copa yn ystod eich siwrnau. Dewisiwch eich ffordd, eich cyflymdra, eich cwmni, a'r man cychwyn a gorffen eich hun.