Logisteg

Byddwch yn fwy tebygol o fwynhau a llwyddo ar eich siwrne os fyddwch wedi'w chynllunio'n ofalus.

O gymeryd yn ganiataol mai tramwyo tua'r Gogledd mewn un diwrnod yr ydych yn bwriadu ei wneud, mae'n gwneud synnwyr cychwyn yn gynnar iawn o Pen Y Pass. Mae hostel yr YHA yn y lle perffaith i gychwyn cyn codiad haul ac yn hawdd ei gyrraedd â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Gymdeithas yn awyddus i weld gwell cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, ond ar hyn o bryd mae nifer o'r gwasanaethau Sherpa yn dueddol o orffen ychydig wedi  oriau swyddfa.

Wedi cwblhau'r triawd copaon grwp yr Wyddfa (amcangyfrif o tua 3-4 awr), gallwch gerdded lawr Llwybr Llanberis i Nant Peris. 'Does gan y ffordd gul yma ddim llwybr troed na chyfyngiadau cyflymder a gall fod braidd yn beryglus. 'Does yna ddim siopau yn Nant Peris a byddai cerbyd cefnogol i ddarparu brecwast a thê yn beth da yma!

Ar ôl gadael y ffordd yn Nant Peris, dewch ar draws ail grwp o gopaon, Y Glyderau. Bydd y rhan hwn yn dechrau hefo Edlidir Fawr a gorffen hefo Tryfan. Bydd y rhan fwyaf yn dewis mynd lawr tua'r A5 lawr Western Gully. Byddai cael ffrindiau i'ch cyfarfod hefo bwyd a diod a newid dillad yn arbennig o dda yma cyn mentro i'r Carneddau.

Mae sawl cilomedr o'r copa olaf o Foel Fras at y pen ffordd nesaf. Byddai cefnogwr hiramynedd yn gyrru draw tua Bwlch Y Ddeufaen (dim trafnidiaeth gyhoeddus) i nôl y cerddwyr blinedig wrth iddynt ddod lawr o Drum.

Byddai'n well i'r rhai heb griw cefnogi na char wedi'w adael mewn lle priodol fynd lawr tua Aber. Efallai y byddwch yn gallu dal bws i Gonwy o Aber.