Hanes Y 14 Copa

Mae'r mynyddoedd 3000 troedfedd yng Nghymru yn gyfleus iawn i gyd yn rhan o'r 3 grwp o fynyddoedd yng Ngogledd Eryri - Carneddau, Glyderau a'r Wyddfa. Pebai Aran Fawddwy neu Cadair Idris ychydig droedfeddi'n uwch, gallai fod yn stori wahanol. Ond fel y mae, roedd tramwyo'r 14 copa mewn un diwrnod yn her amlwg hyd yn oed yn y 19eg ganrif, er fod y cwblhad cyntaf a gofnodwyd yn 1919 gan grwp o'r Rucksack Club dan arweiniaeth Eustace Thomas. I'r gwrthwyneb, wedi metrigeiddio'r Arolwg Ordnans yn a 70au, does gan tramwyo'r 4 copa 1000 medr yr un apel na rhesymeg. Ond mae'r ras copaon mil medr, a gynhelir ddechrau Mehefin yn flynyddol, yn gwneud y gorau o'r sefyllfa gan gychwyn oddi wrth y môr ger Abergwyngregyn a gorffen ar ben yr Wyddfa.

Yn The Mountains Of Snowdonia, gan Carr a Lister, a gyhoeddwyd yn 1925, sylwir y dywed: Ni fydd cerddwyr da'n ymweld ag Eryri nifer o weithiau heb gynnwys y Carneddau, Glyderau a'r Wyddfa mewn un cyrch, a mae'r llyfr ymwelwyr o westy Pen Y Gwryd yn datgelu bod tramwyo'r 'Fourteen Threes', hyd yn oed os na'i cyflawnwyd, yn aml ar agenda'r gwesteion a oedd yn aros yno. Yn ystod y 30au, dechreuodd yr amser tramwyo ddod lawr, hefo W. Stallybrass yn cerdded o'r Wyddfa i Feol Fras mewn 13 awr 20 munud, Showell Styles (yr awdur nodedig) mewn 12 awr 44 munud a Frank Shuttleworth mewn 10 awr 29 munud. Awgryma'r manylrwydd hyn mai naid teithiau achlysurol oedd y rhain, ond ymgeision torri record.

Ond y person cyntaf i gymeryd y record o ddifirif, yn 1938, oedd Thomas Firbank, oedd â fferm (Dyffryn Mymbyr) ar lethrau deheuol y Glyderau. Yn dilyn hyn, cyflwynodd bennod yn ei lyfr arbennig o ddarllenady I Bought A Mountain, gan sicrhau bod y "Fourteen Threes" yn gwbl gydnabyddedig byth ers hynny. Ymddengys ei ddisgrifiad o cynllunio manwl, rhagchwilio, hyfforddi, amserlennu, a thimau cefnogol yn fodern iawn, ac wedi'n talu'n dda pan lwyddodd ei dîm o dri (a oedd yn cynnwys llysfeistri Ysgol Stowe Rex Hamer a Eddi Capel Cure yn ogystal ac ef ei hun), er gwaethaf tywydd gwael a oedd yn cynnwys "blanced o niwl trwchus dyrys" ar y Carneddau, i dramwyo mewn amser o 8 awr 25 munud. Mae hefyd yn werth cofio'r diffyg llwybrau ar y pryd, a oedd yn ei gwneud yn anos fyth ffeindio'u ffordd. Llwyddodd ei wraig Esme (a ail-briododd yn ddiweddarach, ac fel Esme Kirby, dechreuodd Cymdeithas Eryri yn 1968) yng nghwmni'r bugail fferm Thomas Davies i osod record y merched o 9 awr 29 munud. Rhedeg ar i lawr a wnaeth yr amseroedd hyn yn bosibl. Tra'n hyfforddi, daeth Rex Hamer lawr o ben Tryfan i'r A5 mewn 13 munud, camp nad yw'n debyg y gellid ei hefelychu'n aml ers hynny (ond hawliodd yr alpeniwr 80au Trevor Pilling ei fod wedi llwyddo mewn 8 munud - amser syfrdanol dros ben). Roedd rhedeg yn y mynyddoedd yn beth newydd, fel yr oedd y cyhoeddusrwydd a ddilynnodd eu llwyddiant a chodwyd eiliau at hyn yn y sefydliadau mynydda.

Roedd presenoldeb Esme yn gyfrifol am lawer o'r cyhoeddusrwydd, roedd merched yn mynydda'n beth newydd. Byddai'n sawl blwyddyn cyn i bobl fel Helen Diamantides a Lizzy Hawker brofi y gall merched a redai'r pellteroedd mawr fod cystal â'r dynion. 'Doedd Firbank ddim yn hoff o gwbl o'r ffws, ond roedd Esme wrth ei bodd, yn teithio i Lundain fel gwestai y BBC ac yn cael sylw yn y papurau dyddiol. Yn dilyn y teimlad cryf o anniddigrwydd yn y byd mynydda, teimlai Hamer a Capel Cure ei bod yn rhaid ysgrifenu llythyr i ymddiheuro yn y Climber's Club Journal, er na wnaeth hynny atal y rhedeg na diddordeb y wasg pan ar drael stori dda.